Mewn unrhyw un flwyddyn bydd 1 o bob 4 unigolyn yn profi problem neu afiechyd meddwl ac, ar unrhyw un adeg, bydd 1 o bob 6 o’r gweithlu’n wynebu’r heriau hyn. Gyda llawer yn ystyried iechyd meddwl yn bwnc tabŵ, mae gwahaniaethu’n atal pobl rhag siarad am eu problemau a cheisio’r help sydd ei angen arnynt.
Gallwch chi’n helpu ni i greu cymdeithas lle nad yw problemau iechyd meddwl yn cael eu cuddio mewn cywilydd neu gyfrinachedd. Ymunwch â’n tîm drwy arwyddo’ch addewid chi i daclo stigma afiechyd meddwl.
Profwyd fod gweithgaredd corfforol yn ffactor tuag at wella iechyd meddwl ac mae Rydym Yn Gwisgo’r Un Crys yn gallu bod yn achubiaeth i’r rheiny sydd angen gwella’u lles. Mae’r clybiau sy’n cymryd rhan yn cyflwyno rhaglenni unigryw gan eu prif hyfforddeion, a hynny am ddim, diolch i gyllid Chwaraeon Cymru.
Os ydych chi wedi cael diagnosis, neu’n ystyried bod gennych gyflwr iechyd meddwl ac yn dod o ardaloedd Merthyr neu’r Drenewydd (o Hydref 2015) neu Gasnewydd neu Wrecsam (o Hydref 2016) yna cliciwch yma i weld y diweddaraf i gael arwyddo.